UCAC – RESPONSE TO QUESTIONS NOT REACH ON 24 SEPTEMBER

 

A oes gennych unrhyw farn am y darpariaethau gorfodol ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a'r gwahanol drefniadau ar gyfer gwahanol gategorïau o ysgolion? Pa heriau y gallai hyn eu hachosi i ysgolion â chymeriad crefyddol a fydd yn gorfod dylunio, ac o bosibl ddarparu, mwy nag un maes llafur (h.y. un o ran/yn unol â'r maes llafur y cytunwyd arno ac un yn unol â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau’r crefydd neu’r ffydd)

 

Mae UCAC yn llwyr gefnogol i’r cynigion yn y Bil mewn perthynas â darpariaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau.

 

Rydym yn cydnabod y bydd gofynion ychwanegol ar ysgolion â chymeriad crefyddol yn yr ystyr y bydd angen iddynt ddylunio darpariaeth sy’n seiliedig ar y maes llafur cytunedig yn ogystal â darpariaeth ‘enwadol’ yn unol â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol.

 

Rydym yn cytuno y dylai bod gofyniad i gynnig darpariaeth sy’n seiliedig ar y maes llafur cytunedig ym mhob ysgol – p’un ai â chymeriad crefyddol ai peidio.

 

Er bod goblygiadau llwyth gwaith a threfniadaethol yn sgil y gofyniadau hyn, teimlwn bod hynny’n anorfod ac yn rhan annatod o statws ysgolion â chymeriad crefyddol.

 

Rydym eisoes wedi nodi pwysigrwydd sicrhau amser digyswllt digonol i athrawon i allu cyd-gynllunio’r cwricwlwm newydd, ac mi fyddai angen cymryd y gofyniadau uchod i ystyriaeth yn hynny o beth.

 

A fydd angen hyfforddi neu gefnogi athrawon i sicrhau eu bod yn cynnig lluosogrwydd, eu bod yn feirniadol ac yn oddrychol wrth addysgu gwersi CGM?

 

Byddai hyfforddiant i gefnogi athrawon yn bendant yn fuddiol yn y cyd-destun hwn, gan ei fod yn un o’r newidiadau sylfaenol i’r cwricwlwm newydd.

 

Nodwn yn ogystal ei fod yn bwnc sy’n aml iawn yn cael ei ddysgu gan athrawon sy’n arbenigwyr mewn pynciau a meysydd eraill ac felly o bosib heb dderbyn llawer o hyfforddiant penodol hyd yma (dros 27%, yn ôl ffigyrau Cyngor y Gweithlu Addysg yn 2016). Byddai’r drefn a’r Cod newydd yn cynnig cyfle i ddarparu hyfforddiant eang i sicrhau gweithredu cywir ac effeithiol yn y maes.

 

Tystiolaeth atodol gan UCAC:
Yr heriau fyddai’n wynebu ysgolion cyfrwng Saesneg wrth weithredu’r continwwm iaith Gymraeg

Noda’r Memorandwm Esboniadol (3.140), a dogfennau polisi eraill Llywodraeth Cymru bod: “gweddnewid y ffordd rydym yn addysgu’r Gymraeg i bob dysgwr, er mwyn i o leiaf 70 y cant o’r dysgwyr hynny allu dweud erbyn 2050 eu bod yn gallu siarad Cymraeg pan fyddant yn gadael yr ysgol, yn un o’r prif newidiadau gweddnewidiol y bydd eu hangen yn y sector addysg statudol er mwyn gwireddu’r weledigaeth”.

Mae hwn yn nod uchelgeisiol a heriol, ac mae’r diwygiadau i’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yn un rhan allweddol o’r newidiadau fydd eu hangen i’w wireddu. Yn hynny o beth, mae gan Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) rôl ganolog i’w chwarae.

Yr hyn mae’r Bil yn ei wneud yn y cyd-destun hwn yw “...cael gwared ar y gwahaniaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd rhwng dwy raglen astudio – Cymraeg a Chymraeg ail iaith – a chaniatáu addysgu un continwwm ar gyfer dysgu Cymraeg ym mhob ysgol yng Nghymru, a hynny’n rhan o Faes Dysgu Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.” (Memorandwm Esboniadol, 3.140).

Er mor syml y gall y datganiad hwnnw ymddangos, mae’r newid y mae’n ei olygu yn ymarferol i ysgolion yn bellgyrhaeddol, ac yn arbennig felly i ysgolion cyfrwng Saesneg, fel y mae’r Memorandwm Esboniadol yn ei gydnabod: “...disgwylir y bydd yr effaith ar ysgolion cyfrwng Saesneg yn fwy nag ar ysgolion cyfrwng Cymraeg, lle’r Gymraeg yw prif iaith yr ysgol” (8.105). Golyga newidiadau sylfaenol i ddulliau dysgu, cynllunio, dilyniant, a datblygiad sylweddol o ran sgiliau ieithyddol ac addysgeg athrawon a staff cymorth dysgu.

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn cydnabod nad oedd “y mwyafrif helaeth [o ysgolion gafodd eu cyfweld] yn glir ynghylch faint o ddysgu proffesiynol y byddai ei angen ar lefel unigol” (8.272) er bod disgwyliad ar hyn o bryd i ddatblygu cynlluniau i feithrin sgiliau o ran y Gymraeg. Â’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ymlaen i nodi: “... roedd llawer o'r farn nad oedd digon o amser na blaenoriaeth yn cael eu rhoi i'r Gymraeg gan arweinwyr mewn amserlenni ysgol a chynlluniau dysgu proffesiynol” (8.275). Awgryma hyn yn gryf na ellid gadael y broses o drosglwyddo i’r system a’r dulliau  newydd i ddisgresiwn ysgolion unigol, ond bod angen canllaw clir ynghylch yr hyn sy’n ddisgwyliedig dros y tymor byr, canolig a hir, o ran camau gweithredu a deilliannau.

Nid yw’r Bil yn cyfeirio at y cyd-destun strategol ehangach sy’n greiddiol i weithredu’r newidiadau hyn – er enghraifft y Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, a’r newidiadau strwythurol y mae disgwyl i ysgolion eu gwneud, dros gyfnod, i gynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, a thrwy hynny i gynyddu lefelau medrusrwydd cyfathrebu a rhuglder. Mae diffinio ysgolion yn ôl eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn greiddiol yn y cyd-destun hwn gan ei fod yn creu fframwaith ar gyfer cynnydd a dilyniant i ysgolion.

Rydym yn derbyn na fyddai’n briodol i’r Bil fynd i’r lefel honno o fanylder; ni fyddai’n cydweddu â natur ‘fframwaith’ y Bil penodol hwn. Fodd bynnag, mewn gwrthgyferbyniad clir iawn gyda’r prif newidiadau polisi eraill y mae’r cwricwlwm yn eu cyflwyno, nid yw’r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer unrhyw god, canllaw nac is-ddeddfwriaeth fyddai’n ymhelaethu ar oblygiadau’r newidiadau hyn i ysgolion.

Yn Rhan 1, mae’r Bil yn darparu ar gyfer gwneud tri chod i fynd i’r afael â materion penodol mewn mwy o fanylder nag y byddai’n briodol ar wyneb y Bil, sef Cod yr Hyn sy’n Bwysig (6); Cod Cynnydd (7); a Chod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (8).

Er mwyn i ysgolion (yn ogystal ag awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, ac eraill o fewn y system addysg), gael dealltwriaeth glir o’r disgwyliadau, a’r daith sydd o’u blaenau mewn perthynas â’r Gymraeg yn y cwricwlwm newydd, rydym yn cymell yn gryf y dylid gwneud gwelliant i’r Bil sy’n darparu ar gyfer gwneud Cod Addysg Gymraeg. 

Mi fyddai’n angenrheidiol bod y Cod hwn yn cyfeirio’n uniongyrchol at y ddogfen arfaethedig ynghylch diffinio ysgolion yn ôl eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac felly’n rhoi statws statudol i’r diffiniadau. Fel arall, mi fydd angen sicrhau sail statudol arall i’r diffiniadau, a hynny yn unol â’r ymrwymiad yn y Papur Gwyn yn 2019 i ddarparu “pŵer i Weinidogion Cymru a fydd yn caniatáu iddynt ragnodi'r diffiniadau ar gyfer y categorïau iaith ysgolion drwy is-ddeddfwriaeth” (t.35).

Er bod rhywfaint o wybodaeth yn sgil canllawiau’r cwricwlwm ym Maes Dysgu a Phrofiad ‘Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’, ac er y tybiwn y cynigir rhywfaint o fanylder ynghylch cynnydd a dilyniant disgyblion yn y Cod Cynnydd, rydym yn argyhoeddedig na fydd hyn yn ddigonol i ganiatáu’r math o flaengynllunio fydd yn angenrheidiol i sicrhau gweithredu effeithiol mewn perthynas â’r Gymraeg. Byddai creu Cod Addysg Gymraeg yn rhoi sicrwydd diamheuol i’r sector addysg drwyddi draw ynghylch y bwriad o ran y cwricwlwm, a hynny oddi fewn i gyd-destun strategol ehangach bwriadau polisi Llywodraeth Cymru, ac yn rhoi canllaw gweithredu clir.

30 Hydref 2020